Mae Cyngor Ffoaduriaid yr Alban wedi galw ar Swyddfa Gartref San Steffan i gynnal ymchwiliad i’r modd y mae ceiswyr lloches yn cael eu trin yn Glasgow.
Mae honiadau bod safon y tai sy’n cael eu darparu ar gyfer ceiswyr lloches yn y ddinas yn is o lawer na’r disgwyl, a bod y cwmni sy’n darparu gwasanaethau llety yn eu trin yn annynol.
Y ddau gwmni Serco ac Orchard and Shipman sy’n gyfrifol am y gwasanaethau.
Mae’r honiadau wedi’u cynnwys ym mhapur newydd The Times.
Daw’r honiadau diweddaraf yn dilyn sawl helynt yn ddiweddar, gan gynnwys gorfodi ceiswyr lloches yng Nghaerdydd i wisgo bandiau garddwrn a phaentio drysau ceiswyr lloches yn goch ym Middlesborough.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Ffoaduriaid yr Alban, John Wilkes: “Roedd adroddiad ar geiswyr lloches a gafodd ei gwblhau yn 2014 gan Gyngor Ffoaduriaid yr Alban wedi tynnu sylw at nifer o faterion cyffelyb.
“Os yw’r honiadau diweddaraf yn cael eu derbyn, mae’n ymddangos mai gwaethygu wnaeth y problemau, yn enwedig ymddygiad o wahaniaethu ac esgeuluso honedig o ran Orchard and Shipman.
“Mae gan y Swyddfa Gartref gyfrifoldebau cyfreithiol clir dros ffoaduriaid.”
Dywedodd y Cyngor y gallai ymchwiliad arwain at benderfynu a gafodd unrhyw droseddau eu cyflawni.
Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i’r Swyddfa Gartref gynnal arolwg o’r ffordd y mae cytundebau ceiswyr lloches yn cael eu rheoli a’u cyflwyno, ac maen nhw’n galw ar Bwyllgor Materion Cartref San Steffan i gynnal ymchwiliad i gytundebau Compass y Swyddfa Gartref.
Ymateb Serco
Wrth ymateb i’r honiadau yn eu herbyn, dywedodd llefarydd ar ran Serco: “Mae’r holl eiddo’n cael ei lanhau cyn i breswyliaid symud i mewn ac yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â gofynion y Swyddfa Gartref.
“Mae disgwyl i staff Orchard and Shipman fod yn gwrtais ac yn barchus bob amser.
“Os yw unrhyw un o’r preswylwyr yn anhapus gydag ymddygiad staff, mae yna drefn gwynion y mae preswylwyr yn cael gwybod amdani. Mae’r holl gwynion yn cael eu hadolygu ac mae camau priodol yn cael eu cymryd os oes gofyn.”