Llys y Goron Abertawe (Llun Golwg360)
Mae gyrrwr 33 oed, a laddodd weithiwraig ysbyty wrth iddi groesi’r ffordd ger Ysbyty Singleton, Abertawe wedi cael dedfryd o garchar gohiriedig.

Roedd Kiran Giri, o Erddi Glanyrafon, Sgeti, yn gyrru’n rhy gyflym ar hyd Lôn Sgeti ar y ffordd i’r gwaith dros flynedd yn ôl ar 10 Rhagfyr, 2013, pan drawodd Jayne Parker, 47.

Roedd wedi cyfadde’ i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ond, mewn achos yn Llys y Goron Abertawe’r mis diwethaf, cafodd y rheithgor ef yn ddieuog o’r cyhuddiad mwy difrifol o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Yn yr achos heddiw, cafodd ei ddedfrydu i wyth mis o garchar wedi’i ohirio am 24 mis, ac mae wedi’i wahardd rhag gyrru am 24 mis.

Edifar

Clywodd y llys ddarnau o ddatganiad gan fam Jayne Parker, Patricia, lle ddisgrifiodd y “diwrnod dieflig” y cafodd ei merch ei lladd a’r effaith ar ei hŵyr. Roedd Jayne Parker yn gweithio yn ffreutur yr ysbyty.

Roedd Kiran Giri wedi bod ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder fisoedd cyn y gwrthdrawiad, ar ôl cael ei ddal yn gyrru’n rhy gyflym.

Clywodd y llys fod y cyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe yn edifar am yr hyn yr oedd wedi’i wneud ac wedi cynnig siarad â gyrwyr eraill i helpu elusennau diogelwch ffyrdd ddysgu pobol am oblygiadau gyrru’n rhy gyflym.