Mae angen sefydlu pwyllgor arbennig yn cynnwys aelodau o’r cyhoedd er mwyn craffu ar waith Llywodraeth Cymru, yn ôl mudiad sydd yn ymgyrchu dros ddiwygio democrataidd.
Mewn dogfen sydd yn amlinellu eu galwadau i bleidiau cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, dywedodd Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru (ERS) hefyd y dylai’ oedran pleidleisio ostwng i 16.
Maen nhw hefyd am weld newidiadau gan gynnwys cynnydd o 60 i 100 yn nifer Aelodau’r Cynulliad, newid i’r system bleidleisio, a chyflwyno sesiynau ‘Hawl i Holi’ misol yn y Cynulliad.
Yn ogystal â hynny, meddai’r Gymdeithas, mae angen cyflwyno system newydd o gofrestru pleidleiswyr a datblygu ffyrdd y gall pobol bleidleisio’n electronig.
Pwerau newydd
Mae disgwyl i Fesur Cymru, pan ddaw i rym, roi pwerau i Lywodraeth Cymru dros sut mae’n cynnal ei hetholiadau ei hunan gan gynnwys y pŵer i ostwng yr oedran pleidleisio.
Ac yn ôl Steve Brooks, Cyfarwyddwr ERS Cymru, mae angen diwygio democratiaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau a dymuniadau’r bobol yn cael eu hadlewyrchu’n well ym Mae Caerdydd.
“Dros y ddau ddegawd diwethaf mae siâp gwleidyddiaeth Cymru wedi newid yn aruthrol. Rydym bellach yn byw mewn cyfnod o wleidyddiaeth aml-blaid,” meddai Steve Brooks.
“Ond mae ein sefydliadau o dan straen, tra bod pleidleiswyr yng Nghymru yn teimlo’n fwyfwy wedi datgysylltu o wleidyddiaeth. Mae’n amser dod â democratiaeth yn nes at y bobol.
“Cyn hir bydd gan y Cynulliad y pŵer i wneud hynny – ac rydym yn gobeithio y bydd y pleidiau’n defnyddio’r pwerau hynny er lles pleidleiswyr yma yng Nghymru.”