14 o gleifion canser wedi'u heffeithio
Mae tair ward mewn ysbyty yng Nghaerlŷr wedi cael eu cau ar ôl i 14 o gleifion canser gael ffliw moch.

Dywedodd Ysbyty Brenhinol Caerlŷr bod y wardiau wedi cael eu cau er mwyn atal yr afiechyd H1N1 rhag ymledu.

Mae tri chlaf arall sydd â’r afiechyd yn cael eu trin yn Ysbyty Glenfield yn y ddinas.

Mae unrhyw un sydd â symptomau annwyd neu ffliw wedi cael rhybudd i gadw draw o’r lleoliadau.

“Mae pob gofal angenrheidiol wedi cael ei gymryd ac mae’r cleifion hyn wedi cael eu hynysu er mwyn atal yr afiechyd rhag lledu,” meddai Liz Collins, prif nyrs y tîm atal heintiau.