Mae 2.2 miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain – neu 4% o’r boblogaeth – bellach yn defnyddio e-sigarennau, yn ôl amcangyfrifon newydd gan y Swyddfa Ystadegau.

Dywedodd yr ONS fod tua 3.9 miliwn o bobl hefyd yn arfer defnyddio e-sigarennau, tra bod 2.6 miliwn wedi rhoi cynnig arnyn nhw ond heb barhau i’w defnyddio.

Awgrymodd y ffigyrau, fodd bynnag, fod 59% o’r rheiny sydd yn defnyddio e-sigarennau hefyd yn parhau i ysmygu sigaréts traddodiadol.

Ac roedd dros hanner y bobol oedd yn eu defnyddio yn dweud mai ffordd o geisio rhoi’r gorau i ysmygu oedd y bwriad.

Llai yn ysmygu

Dim ond tua 56,000 o’r rheiny oedd yn defnyddio e-sigarennau oedd erioed wedi ysmygu o’r blaen, gan awgrymu mai ysmygwyr neu gyn-ysmygwyr oedd fwyaf tebygol o droi atyn nhw.

Mae llai nag un ym mhob pump o oedolion yng ngwledydd Prydain bellach yn ysmygwyr, y lefel isaf sydd wedi’i gofnodi erioed.

“Mae’r ffigyrau hyn yn barhad o dueddiad hir dymor bod llai o bobl yn ysmygu sigaréts – dim ond 19% o oedolion o’i gymharu â 46% pan ddechreuodd ein harolwg yn 1976,” meddai ystadegydd yr ONS, Jamie Jenkins.

“Tra bod y rhan fwyaf o bobol yn defnyddio e-sigarennau fel ffordd o geisio rhoi’r gorau i ysmygu mae’n ymddangos nad yw hynny’n gweithio i bawb, gan fod tri chwarter o gyn-ysmygwyr e-sigarennau yn dal i smocio sigaréts.”

Gwasanaethau eraill

Dywedodd Dr Penny Woods, prif weithredwr Sefydliad Ysgyfaint Prydain, bod angen parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd sydd yn rhoi cefnogaeth i ysmygwyr sydd am roi’r gorau iddi.

“Dylai e-sigarennau ddim cael eu gweld fel rhywbeth parhaol i gymryd lle smygu, ac mae’r ffigyrau hyn yn cadarnhau nad ydyn nhw’n gweithio i bawb fel ffordd o roi’r gorau iddi,” meddai.

“Fodd bynnag, os nad ydych chi wedi llwyddo i roi’r gorau iddi drwy ddulliau eraill, gan gynnwys eich gwasanaethau darfyddiad ysmygu lleol, mae’n bosib ei bod hi’n werth trio e-sigarennau gyda’r bwriad o roi’r gorau i’r rheiny hefyd yn y diwedd.”