David Cameron mewn uwch-gynhadledd Ewropeaidd gynharach (PA)
Mae David Cameron yn hawlio bod “sail da” i gael cytundeb ar ei alwadau am newidiadau yn y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
Hynny, er fod Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, wedi rhybuddio nad oes sicrwydd o gytundeb ac er fod problemau’n aros gyda dau o’r prif alwadau.
Mae papur newydd y Guardian wedi gweld copi cyfrinachol o’r fersiwn diweddara’ o’r dogfennau sy’n dangos problemau tros awydd David Cameron i gael amodau arbennig i’r sector ariannol yn ninas Llundain.
Brecwast tyngedfennol
Amser brecwast fory fydd y cyfnod tyngedfennol wrth i arweinwyr gwledydd yr Undeb gyfarfod i roi eu barn derfynol.
Os bydd cytundeb, fe fydd Prif Weinidog Prydain yn mynd i Lundain i gyfarfod Cabinet ac wedyn yn dechrau’r broses o gynnal refferendwm ar aelodaeth o’r Undeb.
Fe fydd y drafodaeth yn dechrau’n ddiweddarach heddiw pan fydd pob un o’r 28 gwlad yn rhoi eu barn ar y cytundeb drafft sydd wedi ei gytuno rhwng David Cameron a Donald Tusk.
Mae’n hysbys fod pedair o wledydd dwyrain Ewrop yn gwrthwynebu’r bwriad i gyfyngu ar fudd-daliadau i fewnfudwyr sy’n dod i wledydd Prydain.
Cysur i Cameron
Mae cysur i David Cameron mewn datganiadau gan arweinwyr yr Almaen a Ffrainc – y Canghellor Merkel yn dweud bod galwadau’r Deyrnas Unedig yn gyfiawn a Francois Hollande yn sôn am ei awydd i gadw gwledydd Prydain yn yr Undeb.
Ond mae’r pwysau’n cynyddu arno gan ei aelodau seneddol ei hun a thua chwarter ohonyn nhw edi dweud yn gyhoeddus eu bod o baid gadael yr Undeb.
Fe fydd y ffigurau diweddara’ am fewnfudo o Ewrop wedi cryfhau eu barn – gyda chynnydd o 215,000 mewn blwyddyn yn y bobol o weddill yr Undeb sy’n gweithio yng ngwledydd Prydain, i fwy na 2 filiwn.