Mae dyn 40 oed wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd ar ôl treisio myfyrwraig yng Nghaerdydd yn ystod Wythnos y Glas llynedd.

Roedd Reemus Hamza, sydd o Rwmania ac yn byw yng Nghaerdydd, wedi gwadu ymosod ar y ddynes 20 oed wrth iddi gerdded adref ar ôl noson allan ar 20 Medi 2015.

Ond fe gafodd ei ganfod yn euog gan Lys y Goron Casnewydd.

Tyst wedi’i weld

Fe glywodd y llys bod Reemus Hamza wedi gwthio’r ddynes oedd wedi meddwi tuag at lwyni ger yr Amgueddfa Genedlaethol, cyn ei threisio hi.

Ond fe dorrwyd ar ei draws gan dyst, Lee Neale, a dynnodd lun o Reemus Hamza yn gorwedd ar ben y ddynes, ac yna fe redodd yr ymosodwr i ffwrdd.

Dywedodd Reemus Hamza wrth yr heddlu fod y ddynes wedi cydsynio i gael rhyw ag e, gan ddweud ei bod hi wedi dod draw ato heb iddo fod wedi gorfod ei gorfodi hi.

Clywodd y llys fod gan Reemus Hamza ddedfryd flaenorol ar ôl cael ei ddal yn cyflawni gweithred rywiol gan dair dynes ger yr amgueddfa ym mis Chwefror 2014.