Mae heddwas wedi’i gyhuddo o dreisio merch 17 oed yn Swydd Northampton.
Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Swydd Northampton fod PC Declan Gabriel wedi’i gyhuddo hefyd o ddau achos o ymosod yn rhywiol ar ddynes. Mae’r achosion yn dyddio’n ôl i Fedi 21, 2015.
Ymhellach, mae’r heddwas 26 oed wedi’i gyhuddo o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ar yr un dyddiad.
Mae disgwyl i Declan Gabriel ymddangos gerbron Llys Ynadon Kettering ar Fawrth 30.
Mae’r llu wedi cysylltu â Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.