Roedd un tocyn buddugol yn y Loteri Genedlaethol nos Sadwrn, a’r enillydd yn cael £32.5 miliwn, meddai Camelot.

Fe allai’r enillydd dderbyn yr arian ddydd Llun pan fydd Camelot wedi cadarnhau’r rhifau.

Ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn hysbys ai unigolyn neu garfan o bobol sydd wedi ennill y jacpot, nac ym mle cafodd y tocyn ei brynu.

Dyma fyddai’r drydedd fuddugoliaeth fwyaf erioed, ac mae 85 o bobol wedi ennill dros £1 miliwn ers mis Hydref.

Y rhifau buddugol nos Sadwrn oedd 15, 16, 23, 39, 48 a59, a’r rhif bonws oedd 36.