Mae dyn 18 oed wedi cael ei ladd wedi i gar daro i mewn i nifer o bobol yng Ngwlad yr Haf fore Sul.

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Nailsea toc wedi 5 o’r gloch y bore.

Cafodd tri o bobol eu hanafu.

Dywedodd yr heddlu fod y car wedi taro dau ddyn cyn taro i mewn i ddyn a dynes ac yna i mewn i bolyn.

Cafodd dau ddyn eu cludo i’r ysbyty, lle bu farw’r dyn 18 oed. Mae dyn 20 oed mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y ddau arall driniaeth yn yr ysbyty.

Cafodd y gyrrwr ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae ymchwiliad ar y gweill.