Mae dau o bobol o wledydd Prydain sydd wedi’u hamau o fod ynghlwm wrth y Wladwriaeth Islamaidd wedi cael eu henwi yn y wasg.
Mae Alexanda Kotey wedi’i enwi fel un o gydnabod Mohammed Emwazi, neu ‘Jihadi John’ yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng y Washington Post a BuzzFeed.
Cafodd Aine Davis ei enwi’n ddiweddarach gan ITV.
Mae lle i gredu bod y ddau ddyn yn dod o Lundain.
Dydy’r awdurdodau ddim wedi cadarnhau’r adroddiadau.
Cafodd Emwazi ei ladd yn Raqqa yn Syria ym mis Tachwedd ac roedd e wedi’i amau o fod yn gyfrifol am lofruddio’r ddau ddyn o wledydd Prydain, Alan Henning a David Haines.
Mae enw Aine Davis, sy’n hanu o’r Gambia, wedi’i grybwyll mewn achosion llys ers 2014.
Mae’n cael ei adnabod fel cyflenwr cyffuriau ac mae lle i gredu ei fod e bellach yn swyddog diogelwch gyda’r Wladwriaeth Islamaidd.
Cafodd gwraig Davis, Amal El-Wahabi ei charcharu am ddwy flynedd yn 2014 am ariannu brawychiaeth.
Mae lle i gredu bod Kotey wedi ffoi o wledydd Prydain yn 2009 i fynd i lain Gaza.