Iwerddon 16–16 Cymru
Cyfartal oedd hi wrth i Gymru ymweld â Dulyn i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Aviva yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad brynhawn Sul.
Aeth y Gwyddelod dri phwynt ar ddeg ar y blaen yn yr hanner cartref ond tarodd Cymru yn ôl gyda chais Faletau cyn yr egwyl a rhoddodd cicio cywir Priestland yr ymwelwyr ar y blaen am gyfnod byr yn yr ail hanner. Bu rhaid iddynt rannu’r pwyntiau yn y diwedd serch hynny oherwydd cic hwyr Sexton.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Iwerddon yn dda ac roeddynt ar y blaen wedi pum munud diolch i gic gosb o droed Jonathan Sexton.
Daeth Cymru yn agos at gais yn y pen arall wedi hynny ond Iwerddon a Sexton a gafodd y pwyntiau nesaf hefyd, 6-0 wedi chwarter awr.
Bu rhaid i Gymru wneud newid yn safle’r maswr hanner ffordd trwy’r hanner gyda Dan Biggar yn gadael gydag anaf a Rhys Priestland yn dod ymlaen yn ei le.
Cafodd Iwerddon gyfnod da o bwyso wedi hynny, a dim ond mater o amser oedd hi cyn i Conor Murray sgorio cais cyntaf y Gwyddelod, y mewnwr yn ffugio ac yn plymio drosodd o fôn y ryc.
Rhoddodd trosiad Sexton y tîm cartref dri phwynt ar ddeg ar y blaen ond Cymru orffennodd yr hanner orau.
Ciciodd Priestland bwyntiau cyntaf yr ymwelwyr wedi tacl beryglus Keith Earls ar Liam Williams. Yna, daeth cais i Taulupe Faletau yn dilyn tair sgrym gref ar y llinell bum medr.
Llwyddodd Priestland gyda’r trosiad a thri phwynt yn unig oedd ynddi ar yr egwyl, 13-10 y sgôr o blaid Iwerddon.
Ail Hanner
Cafodd Cymru ddechrau da i’r ail hanner gan unioni’r sgôr wedi saith munud diolch i gic gosb o droed Prietland.
Arhosodd pethau’n gyfartal am gyfnod hir wedi hynny gyda’r gêm yn symud o naill ben y cae i’r llall, a bu rhaid aros tan saith munud o’r diwedd am y pwyntiau nesaf.
Daeth rheiny o droed Priestland, y maswr yn llwyddo gyda chic gosb yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan Gymru yn hanner Iwerddon heb fygwth y llinell fantais.
Ildiodd Cymru gic gosb bron yn syth o’r ail ddechrau a chiciodd Sexton y Gwyddelod yn ôl yn gyfartal, un pwynt ar bymtheg yr un gyda phum munud i fynd ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.
Iwerddon
Cais: Conor Murray 27’
Trosiad: Jonathan Sexton 28’
Ciciau Cosb: Jonathan Sexton 5’, 14’, 75’
.
Cymru
Cais: Taulupe Faletau 38’
Trosiad: Rhys Priestland 39’
Ciciau Cosb: Rhys Priestland 32’, 47’, 73’