Mae un o weinidogion cysgodol y Blaid Lafur wedi rhybuddio’r arweinydd Jeremy Corbyn i baratoi am etholiad cyffredinol pe bai gwledydd Prydain yn pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth rhybudd gan Toby Perkins y gallai colli’r bleidlais arwain at ymddiswyddiad y prif weinidog, David Cameron.

Ar wefan LabourList, dywedodd Perkins y gallai diffyg paratoi arwain at “drychineb” i’r Blaid Lafur.

Er nad oes disgwyl etholiad cyffredinol tan 2020, rhybuddiodd Perkins y byddai’n rhaid iddyn nhw gytuno i gynnal un arall pe bai’n cael ei alw gan Cameron wedi’r refferendwm.

“Mae’r posibilrwydd o ymddiswyddiad y Prif Weinidog yn dilyn pleidlais dros adael wedi cael ei grybwyll yn gyson,” meddai Perkins.

“Fodd bynnag, rwy’n credu bod y grymoedd o fewn y Blaid Geidwadol mor gryf fel y bydd y rhan fwyaf o ASau a’u hymgyrchwyr yn teimlo ei bod hi’n bryd cael newid pa un a yw Cameron yn ennill neu’n colli.

“Pe bai Cameron yn mynd, rwy’n disgwyl i’w olynydd edrych yn ofalus i weld a yw’r Blaid Lafur yn gallu brwydro mewn etholiad cyffredinol brys.”

Gallai etholiad cyffredinol gael ei alw’n gynnar pe bai dau draean o aelodau seneddol yn cytuno.