Mae disgwyl gwyntoedd o hyd at 80 milltir yr awr ddydd Llun wrth i Storm Imogen gyrraedd gwledydd Prydain.

Mae rhybudd melyn i Gymru, a rhybudd oren ledled de-orllewin Lloegr.

Fe allai’r gwyntoedd darfu ar drafnidiaeth gyhoeddus fore Llun, ac mae disgwyl cryn dipyn o ddifrod mewn sawl ardal.

Mae rhannau o Ddyfnaint a Chernyw yn disgwyl llifogydd.

Bydd y rhybuddion mewn grym rhwng 3 o’r gloch fore Llun a 6 o’r gloch nos Lun, a’r gwyntoedd yn cyrraedd cyflymdra o 60 milltir yr awr mewn sawl ardal.

Mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus wrth ddefnyddio rhannau helaeth o’r M4.