Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi galw am ymchwiliad i’r ffordd y mae carchardai Cymru a Lloegr yn trin menywod beichiog a mamau yn y carchar.

Yn ôl ffigurau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, treuliodd 100 o fabanod gyfnod dan glo y llynedd.

Dywedodd Cameron fod y sefyllfa’n “ofnadwy”.

“Mae menywod yn y carchardai hyn a gafodd eu geni yn yr un carchar 20 mlynedd ynghynt, ac wedi landio yno’n droseddwyr eu hunain.

“Meddyliwch am y niwed sy’n cael ei achosi i obeithion y plant hyn yn eu bywydau.”

Ar hyn o bryd, mae carcharorion sy’n rhoi genedigaeth yn cael eu trosglwyddo i uned i fabanod a mamau.

Ychwanegodd Cameron: “Mae’n bryd i ni feddwl yn ofalus ai dyma’r drefn briodol.

Mae disgwyl i adolygiad ystyried a ddylid cosbi mamau neu fenywod beichiog mewn ffordd wahanol, gan gynnwys eu gosod mewn unedau arbennig neu gael tag electronig yn lle mynd i’r carchar.

Ond dywedodd llefarydd na fyddai cosb amgen yn briodol ym mhob achos.