Mae o leiaf 23 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn daeargryn a achosodd i adeilad preswyl 17 llawr ddymchwel yn ne Taiwan.
Mae lle i gredu bod dros 120 o bobol o dan y rwbel o hyd, a bod dros 170 o bobol wedi cael eu hachub.
Mae o leiaf 90 o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty.
Roedd y daeargryn fore Sadwrn yn mesur 6.4 ar y raddfa Richter.
Mae amheuon bellach wedi cael eu codi am y ffordd y cafodd yr adeilad ei godi, ac mae llywodraeth Taiwan wedi addo cynnal ymchwiliad.
Roedd yr adeilad yn un o naw oedd wedi dymchwel yn dilyn y daeargryn.
Mae disgwyl i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu hail-gyflwyno ddydd Sul wedi i’r daeargryn achosi difrod i reilffyrdd.