Y diweddar beilot, Roger Gower (Llun: PA)
Mae pump o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad â marwolaeth peilot hofrennydd o wledydd Prydain a gafodd ei saethu’n farw gan helwyr eliffant yn Tanzania.
Mae’r saethwr honedig a’i gydweithwyr yn cael eu hamau hefyd o ddarparu arfau anghyfreithlon ac o smyglo ifori. Ac mae’r awdurdodau’n rhybuddio y gallai mwy o bobol gael eu harestio’n fuan.
Roedd y peilot, Roger Gower, 37, yn helpu’r awdurdodau yn Tanzania i ddod o hyd i helwyr anghyfreithlon, pan drodd yr helwyr eu gynnau arno ef ar Ionawr 29.
Fe lwyddodd i lanio ei hofrennydd ym mharc bywyd gwyllt Maswa ger Serengeti yng ngogledd y wlad, ond fe fu farw o ganlyniad i’w anafiadau cyn y daeth neb i’w achub.
Roedd Roger Gower wedi dod yn beilot cymwys yn 2004, ac fe symudodd i fyw i Affrica ddwy flynedd yn ddiweddarach.