Deg o bobol ddaeth ynghyd ar Faes Caernarfon heddiw i gefnogi protest weledol yn erbyn toriadau posib i wasanaethau cyhoeddus yng Ngwynedd.
Bwriad gwreiddiol yr ymgyrch ‘Tyfu nid Torri’ gan Gymdeithas yr Iaith oedd creu arddangosfa drawiadol yng nghanol tre’r Cofis, trwy osod trênars y protestwyr ar y llawr – rhain fyddai’r trênars diangen pe bai cynlluniau i dorri’n ol ar ganolfannau hamdden a gweithgareddau cyhoeddus eraill yn mynd rhagddynt.
Mae’n dal yn fwriad cyflwyno’r trênars i gynghorwyr Gwynedd pan fyddan nhw’n mynd i mewn i gyfarfod llawn y cyngor sir ar Fawrth 3.
Wedi i’r trênars gael eu gosod ar y grisiau ger y ffownten heddiw, fe fu Gwilym Bowen Rhys yn canu caneuon gwladgarol fel ‘Owain Lawgoch’ ac ‘Yma o Hyd’.
Ymgyrch ‘Tyfu nid Torri’
“Ymgyrch bositif ydi hon yn galw ar Gynghorwyr Gwynedd i ymwrthod â’r toriadau ar wasanaethau cyhoeddus yng Ngwynedd a fydd yn cael effaith andwyol ar gymunedau ac ar y Gymraeg,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Byddai cymryd rhan yn y penderfyniad o dorri gwasanaethau gwerthfawr yn anfoesol ac yn dilysu ymdrechion eidiolegol y Torïaid i beidio â threthi busnesau mawr a chosbi’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.
“Rydym yn cydweithio gyda grwpiau eraill yn erbyn y toriadau – Sgrech Gwynedd (ymgyrch yn erbyn toriadau i’r celfyddydau yng Ngwynedd), Achub Neuadd Buddug a Neuadd Dwyfor, aelwydydd yr Urdd, clybiau ffermwyr ifanc â’r ymgyrch yn erbyn cau llyfrgelloedd.”
Meddai Bethan Ruth, Swyddog Maes y Gogledd Cymdeithas yr Iaith: “Arwenir yr ymgyrch yn bennaf gan bobl ifanc y sir ac maent fel pobl ifanc yn pryderu am y toriadau sy’n debygol o’u heffeithio nhw yn bennaf. Dewiswyd gosod yr esgidiau ymarfer corff am eu bod yn weledol yn cynrychioli’r bobl ifanc yma.
“Rydym yn bwriadu cyflwyno’r esgidiau ymarfer corff i’r cynghorwyr pan fyddent yn mynd i’r cyfarfod cyngor fis Mawrth gan obeithio y byddent yn pleidleisio wrth ystyried barn eu hetholwyr”.
Ychwanegodd myfyrwraig y chweched dosbarth, Lois Llywelyn, Cadeirydd Cell Coleg Meirion-Dwyfor Pwllheli: “Mae angen gobaith i bobl ifanc Gwynedd a byddai cymryd rhan yn y penderfyniad o dorri gwasanaethau gwerthfawr yn anfoesol ac yn dilysu ymdrechion eidiolegol y Torïaid i beidio â threthi busnesau mawr a chosbi’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas.
“Mae angen i’r cynghorwyr gofio eu bod yn cynrychioli’r rheiny sy’n eu hethol nhw, yn hytrach nag ymdrin â’r toriadau fel rhywbeth y maent yn gorfod ei wneud yn weinyddol.
“Galwn ar gynghorwyr Gwynedd i roi arweiniad i Gynghorau Sirol eraill yng Nghymru i wneud yr un fath hefyd ac i roi gobaith a chyfiawnder i’w hetholwyr.”