David Cameron
Gallai cyfyngiadau ar hawliau trigolion Ewrop i dderbyn budd-daliadau tra’n gweithio yng ngwledydd Prydain gael eu cyflwyno yn fuan wedi refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd (UE), yn ôl David Cameron.
Dywedodd Cameron fod y cytundeb drafft ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn rhoi terfyn ar y cysyniad o “gael rhywbeth am wneud dim byd”.
“Roedd pobol yn dweud y byddai’n amhosib rhoi terfyn ar y cysyniad o gael rhywbeth am wneud dim byd a bod cyfyngiad pedair blynedd ar fudd-daliadau allan ohoni’n llwyr.
“Ond dyna sydd yn y testun erbyn hyn – brêc argyfwng a fydd yn golygu y bydd rhaid i bobol sy’n dod i Brydain o’r UE aros pedair blynedd cyn cael mynediad llawn i’n budd-daliadau ni.”
Ychwanegodd Cameron ei fod yn hyderus bod cynnydd yn cael ei wneud wrth i’r trafodaethau barhau.
“Ond mae’r broses ymhell o fod ar ben. Mae manylion sydd angen eu cadarnhau o hyd ac mae trafodaethau dwys ar y gweill i geisio cytundeb gyda’r 27 gwlad arall.
“Fe fydd gofyn am waith caled, dyfalbarhad ac amynedd hyd y diwedd.”
Cadarnhaodd Cameron y bydd dadl am ddiwrnod cyfan yn Nhŷ’r Cyffredin maes o law i drafod y cytundeb.
‘Drama’
Ond mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi beirniadu’r trafodaethau, gan ddweud bod y cyfan yn “ddrama o fewn y Blaid Geidwadol sy’n cael ei llwyfannu o’n blaenau ni i gyd”.
Ychwanegodd fod Cameron yn “trafod y nodau anghywir, yn y ffordd anghywir, am y rhesymau anghywir”.
Dywedodd fod y cyfan wedi’i “goreograffio ar gyfer y camerâu teledu ar draws y cyfandir”.
Galwodd Corbyn ar Cameron i sicrhau bod y refferendwm yn cael ei gynnal ar Fehefin 23.
Gwrthwynebiad mewnol
Daeth beirniadaeth hefyd oddi mewn i’r Blaid Geidwadol, wrth i Ken Clarke ddatgan y byddai amodau’r cytundeb yn anodd ei gweithredu.
Mae’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox wedi darogan y gallai hyd at bum aelod o’r Cabinet bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ac y gallai hynny arwain at rwyg o fewn y blaid.
Dywedodd Maer Llundain, Boris Johnson fod “llawer iawn mwy i’w wneud” cyn y byddai’n fodlon cefnogi aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Barn debyg oedd gan yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Lewes, Maria Caulfield a ddywedodd wrth raglen World at One ar BBC Radio 4 nad yw’r cytundeb presennol yn “ddigon i fi”.
Ychwanegodd y cyn-aelod Cabinet, Maria Miller fod “llawer o fanylion i’w cadarnhau eto”.
Gwrthbleidiau
Yn y cyfamser, mae arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson wedi ailadrodd pwysigrwydd sicrhau bod Prydain yn aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Galwodd ar Cameron i osgoi defnyddio braw i annog pleidleiswyr i ddewis gadael yr UE pe na bai’n llwyddo i ddod i gytundeb.
Ychwanegodd arweinydd UKIP, Nigel Farage mai “grym y bobol” fyddai’n penderfynu dyfodol Prydain, ac nid gwleidyddion.
Ceisio barn gwledydd Ewrop
Mae disgwyl i David Cameron drafod ei gynlluniau i ddiwygio’r berthynas rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd pan fydd yn cyfarfod ag arweinwyr Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Sweden a Slofacia mewn cynhadledd ar Syria yn Llundain ddydd Iau.