George Bingham, unig fab yr Arglwydd Lucan
Mae unig fab yr Arglwydd Lucan wedi cael yr hawl i gael tystysgrif marwolaeth ei dad – 42 mlynedd ers iddo ddiflannu.

Mae’n golygu y gall George Bingham etifeddu teitl ei dad fel 8fed Iarll Lucan.

Fe ddiflannodd yr Arglwydd Lucan ar ôl i nani’r teulu Sandra Rivett gael ei llofruddio yng nghartref y teulu yn Llundain ar 7 Tachwedd 1974.

Mae ei ddiflaniad wedi bod yn ddirgelwch ers hynny.

Yn yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mercher, dywedodd Mrs Ustus Asplin nad oedd unrhyw aelodau o deulu’r Arglwydd Lucan na’i ffrindiau agosaf wedi ei weld na chlywed ganddo ac nad oedd ganddyn nhw unrhyw reswm i gredu ei fod dal yn fyw.

O ystyried y dystiolaeth meddai, roedd yn fodlon nad oedd rheswm i gredu bod Lucan wedi bod yn fyw am gyfnod o saith mlynedd o leiaf.

‘Aros yn ddirgelwch’

Yn dilyn y gwrandawiad dywedodd yr Arglwydd Bingham mae ei farn bersonol ef oedd bod ei dad wedi bod yn farw ers iddo ddiflannu.

“O dan yr amgylchiadau, rwy’n credu ei fod yn bosib ei fod wedi teimlo fod ei fywyd ar ben, waeth os oedd yn euog neu beidio.

“Fe fyddai cael ei lusgo drwy’r llysoedd a’r cyfryngau wedi dinistrio ei fywyd personol, ei yrfa a’i obeithion o gael ei blant yn ôl.

“Ac fe allai hynny fod wedi gwthio dyn i ddod a’i fywyd i ben, ond does gen i ddim syniad.”

Wrth estyn ei gydymdeimlad i fab Sandra Rivett, Neil Berriman, dywedodd ei fod yn “ddirgelwch, ac fe allai aros yn ddirgelwch am byth.”

“Mae’n well gen i ystyried bod person yn ddieuog nes eu bod nhw’n cael eu profi’n euog mewn llys barn,” meddai, gan ychwanegu ei bod yn “bryd symud ymlaen.”

‘Cyfiawnder i Sandra’

Ychwanegodd Neil Berriman ei fod yn gobeithio y bydd y dirgelwch am Lucan yn dod i ben o fewn y 12-14 mis nesaf, oherwydd tystiolaeth newydd sydd wedi dod i’r fei.

“Yn y diwedd mae angen mynd at y gwir a chael cyfiawnder i Sandra,” meddai.

Er bod yr Arglwydd Lucan wedi cael ei gyhoeddi’n farw yn swyddogol gan yr Uchel Lys yn 1999, roedd adroddiadau ei fod wedi cael ei weld yn Awstralia, Iwerddon, Affrica a Seland Newydd a honiadau ei fod yn byw yn India.