Pel-droed 'Zorb'
Mae Cyngor Ynys Môn wedi argymell ymweld â safle canolfan ‘zorb’ arfaethedig cyn y bydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch cymeradwyo’r cais cynllunio.
Mae cwmni Zorb Eryri yn Llanberis, dan arweiniad Dan Jones a George Ullrich, am godi’r ganolfan ym Mhorthaethwy.
Eu bwriad yw ychwanegu at yr arlwy o gampau antur peryglus sydd eisoes ar gael yn yr ardal, gan gynnwys Zip World a Surf Snowdonia.
Cafodd y cynlluniau eu cyflwyno cyn y Nadolig, ac fe gawson nhw eu trafod gan y Cyngor Sir ddydd Mercher.
Yn ôl y cais, fe fyddai’r ganolfan ar agor rhwng mis Ebrill a mis Hydref.
Mae’r Cyngor wedi argymell gohirio penderfyniad brynhawn dydd Mercher er mwyn cynnal arolwg o’r safle.
Mae gweithgareddau ‘zorb’ eisoes yn boblogaidd yn yr ardal, ac mae Clwb Pêl-Droed Llandudno yn cynnig gwersi pêl-droed ‘zorb’.
Yn ôl y Cyngor Sir, mae’r safle mewn lleoliad sensitif ac oherwydd natur anghyffredin y cais, byddai’n ddefnyddiol i’r aelodau ymweld â’r safle cyn ystyried y cais.