Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad hiliol ar ddau ddyn o dras Asiaidd yng ngorsaf rheilffordd Y Fflint.

Digwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 9.50 nos Sadwrn tra bod y ddau yn aros am drên i fynd i Gaer.

Dechreuodd y dynion sgwrs â’i gilydd am grefydd cyn i’r dynion o dras Asiaidd gael eu bygwth a dioddef ymosodiad oedd wedi para rhyw 20 munud.

Dywedodd yr heddlu bod ofn ar y dynion roi datganiad iddyn nhw am yr hyn oedd wedi digwydd.

Mae’r dynion y mae’r heddlu’n awyddus i siarad â nhw’n cael eu disgrifio fel dynion croen wyn, ac roedden nhw’n gwisgo siacedi milwrol.

Roedd gan un o’r dynion wallt golau, tra bod gan y llall wallt brown tywyll.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 0800 40 50 40, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.