Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd aelodau a chyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cael cynnig sesiynau nofio am ddim.
Drwy ddangos eu Cerdyn Braint gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, fe allant gael sesiynau nofio am ddim mewn canolfannau hamdden sy’n rhan o’r cynllun.
Caiff nofio ei ystyried fel camp sy’n gwella lefelau ffitrwydd cyffredinol, gan leihau’r risg o salwch cronig, helpu i reoli pwysau a gwella lles corfforol a meddyliol.
Mae’r cynllun yn rhan o Becyn Cymorth Llywodraeth Cymru i Gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Fe fyddan nhw’n cyfrannu £100,000 dros 2 flynedd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel y gall pob awdurdod lleol sefydlu cynllun nofio am ddim i aelodau a chyn-aelodau’r Lluoedd Arfog.
‘Cydnabod gwasanaeth y Lluoedd Arfog’
“Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn arwain at fanteision iechyd, yn gorfforol ac yn feddyliol,” meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates wrth lansio’r cynllun heddiw.
“Dw i’n falch ein bod yn gallu cydweithio â’r llywodraeth leol er mwyn cydnabod y gwasanaeth clodwiw y mae’r Lluoedd Arfog yn ei roi i’n gwlad”.
Fe groesawodd Leighton Andrews y cynllun hefyd gan ddweud fod hyn yn “dangos eto ein hymrwymiad i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.”
Cerdyn Braint
Fe ddywedodd Phil Jones, Rheolwr Ardal ar gyfer Cymru, y Lleng Prydeinig Brenhinol ei fod yn gobeithio y bydd “nifer o gyn-aelodau’r fyddin sy’n byw yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cynllun hwn.”
Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, mae mwy na 16,000 o aelodau wedi cofrestru i ddefnyddio Cerdyn Braint y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae’r cerdyn yn cynnig arbedion ar-lein, mewn siopau a chanolfannau hamdden.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwasanaeth unigryw i gyn-aelodau’r lluoedd arfog fel rhan o’r GIG, ynghyd ag ymestyn y gostyngiad ar dreth y cyngor i aelodau’r Lluoedd Arfog.