Neil McEvoy
Mae pedwar o ymgeiswyr Plaid Cymru ar gyfer y Cynulliad wedi beirniadu dyn sy’n bwriadu cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerdydd i ddadlau y dylid cyfreithloni treisio ar dir preifat.
Mae Neil McEvoy (Gorllewin Caerdydd), Elin Walker Jones (Gogledd Cymru), Glyn Wise (Caerdydd Canol) a Dafydd Trystan Davies (De Caerdydd a Phenarth) wedi dod at ei gilydd i ddweud nad oes croeso i Daryush Valizadeh – neu Roosh V – yn y brifddinas.
Mae Roosh V yn trefnu cyfarfod yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, Chwefror 6 ar gyfer dynion o’r un farn ag ef i, yn ei eiriau ei hun, “gamu o’r cysgodion a pheidio gorfod cuddio y tu ôl i gyfrifiadur am eu bod ofn i bobl ddial arnynt.”
Ond mae Neil McEvoy yn dweud y dylid herio ei “safbwyntiau ffiaidd” yn y modd cryfaf posib, gan annog pobol i ymuno yn ei erbyn.
‘Difaterwch’
Yn ôl Roosh V, mae’r rhan fwyaf o achosion o dreisio yn digwydd rhwng dyn a dynes sydd eisoes yn adnabod ei gilydd.
Mae’n honni fod ymdrechion i atal dynion rhag treisio wedi arwain at ddifaterwch ymhlith menywod.
Mae’n dadlau hefyd nad yw menywod yn cymryd yr holl gamau priodol er mwyn amddiffyn eu hunain, ac nad ydyn nhw’n cymryd cyfrifoldeb os ydyn nhw’n cael eu treisio.
Yr ymgyrchwyr 38 Degrees sydd wedi cyflwyno’r ddeiseb, ac mae un o’r ymgyrchwyr, Deborah de Lloyd wedi galw ar Gomisiynydd Heddlu’r De, Alun Michael i atal y cyfarfod rhag mynd yn ei flaen.
Mae hi’n dadlau nad yw’r brifddinas yn ddiogel tra bod y cyfarfod yn cael ei ganiatáu.
‘Neges gref ac unfrydol’
Mewn datganiad, dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerdydd, Neil McEvoy: “Yn bersonol rwy’n credu fod safbwyntiau’r gŵr hwn yn ffiaidd. Mae angen i Gaerdydd anfon neges gref ac unfrydol iddo.
“Dyna pam fod ymgeiswyr Plaid Cymru yn ein prifddinas yn uno i annog pobl ledled Caerdydd a thu hwnt i feirniadu’r fath gasineb.
“Mae’r gŵr hwn nid yn unig yn pregethu casineb tuag at ferched, mae hefyd yn hyrwyddo trais rhywiol ac wedi brolio sawl gwaith ei fod yn credu y dylid cyfreithloni trais ar eiddo preifat.
“Mae Caerdydd yn ddinas oddefgar, flaengar a ni wnawn ni sefyll yn stond tra mae narsisist dwl sy’n gwneud popeth i dynnu sylw at ei hun yn ceisio gorfodi ei syniadau gwrthun ar eraill.
“Rydym yn annog pobl ledled Caerdydd i adleisio galwadau dinasoedd eraill drwy’r DU a dweud nad oes croeso i Roosh V yng Nghymru.
“Mae Plaid Cymru wedi ysgrifennu at yr heddlu yn galw arnynt i gymryd pob cam angenrheidiol i atal anogaeth trais rhywiol yn erbyn merched a all gymryd lle o ganlyniad i’r cyfarfod dydd Sadwrn.”