Cyngor Sir Benfro
Mae Cyngor Sir Benfro a Chyngor Ceredigion wedi dod dan y lach ar ôl cadarnhau y byddan nhw’n herio rhai o Safonau Iaith a gafodd eu cyflwyno gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae golwg360 ar ddeall bod Cyngor Penfro yn bwriadu herio o leiaf 10 o’r safonau y bydd disgwyl iddyn nhw gyrraedd.
Bydd Cyngor Ceredigion yn herio dwy safon iaith, rhai yn ymwneud â chyfarfodydd cyhoeddus a chyhoeddiadau cyhoeddus.
Y safonau
Mae’r safonau y mae disgwyl i Gyngor Penfro eu herio yn ymwneud ag anfon gohebiaeth yn dewis iaith unigolyn, gyda’r cyngor yn gofyn am estyniad tan 30 Mawrth 2017 i’w gwblhau.
Bydd y cyngor hefyd yn herio’r safon i gynnal gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg, anfon datganiadau i’r wasg yn ddwyieithog, gan ofyn am eithriad mewn amgylchiadau brys, a chynnal gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol dwyieithog.
Ni fydd y safon i roi’r hawl i weithwyr y cyngor lenwi eu ffurflenni gwyliau, absenoldeb o’r gwaith nac oriau gweithio hyblyg yn cael eu rhoi ar waith gan y cyngor chwaith, gan nad oes gan y system electronig ryngwyneb Gymraeg.
Mae’r awdurdod felly wedi gofyn am estyniad tan 1 Ionawr 2017 gan ei fod yn ystyried creu rhyngwyneb o’r fath.
Esiampl wael?
Mewn ymateb, mae Cymdeithas yr Iaith wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd dwy ysgol Gymraeg newydd yn cael eu hagor yn y sir.
“Bydd ysgol gynradd yn Ninbych y Pysgod ac ysgol uwchradd yn Hwlffordd dros y blynyddoedd nesaf ond eto mae’r Cyngor yn gofyn i beidio gorfod cyflawni rhai Safonau elfennol,” meddai Bethan Williams, swyddog maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith.
“Pa argraff mae hynny’n rhoi? Mai iaith addysg yw’r Gymraeg ond fod popeth ‘go iawn’ yn digwydd yn Saesneg.
“Ble mae’r uchelgais? Mae cyfle gan y Cyngor fan hyn i newid iaith y Cyngor, yn raddol. Yn hytrach na mynd i’r afael â hynny mae’r Cyngor yn herio’r Safonau.”
Dywedodd mai “yr un yw’r neges i Gyngor Ceredigion”, gan ychwanegu, “Rydyn ni wedi bod yn galw ar Gyngor Ceredigion, fel Cyngor Sir Gâr, i symud i weithio’n Gymraeg ers ugain mlynedd a mwy; a’r cynghorau i gyd yn gwybod ers digon o amser y byddai Safonau arnyn nhw.
“Pam aros nes bod rhaid gwneud felly?”
Ymateb Cyngor Penfro
“Rydym yn cefnogi’r egwyddorion y tu ôl i’r Safonau Iaith ac rydym yn gweithio’n galed i gyrraedd y safonau hynny o fewn yr amserlen ofynnol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Penfro.
“Rydym yn rhagweld y bydd trafferthion ymarferol wrth gydymffurfio â rhai o’r safonau, am hynny, rydym wedi herio rhai.
“Fodd bynnag, ein blaenoriaeth yw gallu darparu gwasanaeth Cymraeg i unrhyw unigolyn sy’n gofyn amdano.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Ceredigion.