Mae Prydeiniwr oedd ar wyliau gyda’i deulu yng Ngwlad Thai wedi cael ei ladd gan eliffant, yn ôl adroddiadau.

Cafodd yr Albanwr, sydd wedi’i enwi mewn adroddiadau fel Gareth Crowe, 36 oed, ei daflu i’r llawr gan yr anifail yn ystod taith yn Koh Samui.

Yn ôl adroddiadau yn y Bangkok Post, roedd yr eliffant wedi sathru arno a’i anafu gyda’i ddant bnawn dydd Llun.

Mae’n debyg bod ei ferch, Eilidh Hughes, sydd yn ei harddegau, wedi cael man anafiadau ac yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Yn ôl adroddiadau, nid oedd ei bartner Catherine Hughes a’u mab ar y daith.

‘Cam-drin’

Mae ’na awgrymiadau nad oedd yr eliffant yn ymateb i orchmynion ei drafodwr.

Dywedodd yr elusen World Animal Protection eu bod yn cydymdeimlo gyda theulu’r dyn ond bod y digwyddiad yn tanlinellu’r ffaith na ddylid mynd ar gefn eliffant.

Meddai llefarydd: “Mae eliffantod yn cael eu cam-drin er mwyn eu dofi fel bod pobl yn gallu reidio arnyn nhw a’u bod yn perfformio mewn sioeau.

“Nid yw’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn gwybod am y gamdriniaeth yma, neu’r peryglon posib maen nhw’n ei wynebu.”

Dywed y Swyddfa Dramor eu bod yn cynnig cymorth i deulu’r dyn a’u bod yn cysylltu â’r awdurdodau lleol er mwyn cael rhagor o wybodaeth.