Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood
Mewn darlith wedi’i threfnu gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol yn Aberystwyth neithiwr, fe ddatgelodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ei chynlluniau i Lywodraeth Plaid Cymru.
Roedd ei chynlluniau’n cynnwys sicrhau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd i Gymru, ymestyn yr etholfraint pleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed, ynghyd â sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru.
Fe ddywedodd ei bod am “hybu a meithrin ymwneud democrataidd yr ifanc” drwy sefydlu Senedd Ieuenctid Cenedlaethol.
‘Agored, hygyrch, atebol’
Fe ddywedodd y byddai am gyflwyno ymgynghoriad ar Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl newydd i Gymru o fewn can diwrnod o gael eu hethol.
Yn ei hanerchiad, fe soniodd hefyd am y posibilrwydd o gyflwyno pleidleisio digidol gan dynnu ar brofiad Estonia.
“Mae gennym lawer i ddysgu o ran seibr-ddiogelwch a phleidleisio, ond mae ymwybyddiaeth o ddatblygiadau gwleidyddol Cymreig ac ymwneud â hwy wedi eu llesteirio ers yn rhy hir am nad oes cyfryngau Cymreig eang eu hapêl.”
Fe ddywedodd hefyd pe byddai’n dod yn Brif Weinidog y byddai am “gyhoeddi pob penderfyniad gweinidogol a chynnal cyfarfodydd cabinet cyhoeddus ledled y wlad.”
“Bydd y llywodraeth dan f’arweiniad i yn wahanol. Fe fyddwn ni’n agored. Fe fyddwn ni yn hygyrch. Fe fyddwn ni yn atebol. Fe wnawn ein gorau i greu’r Gymru orau oll.
“Fe fyddwn yn siŵr o wneud camgymeriadau ar hyd y ffordd. Ond wnawn ni ddim osgoi craffu nac atebolrwydd.”