Yn dilyn adroddiadau bod ‘prinder’ prifathrawon yng Nghymru, mae aelod o Bwyllgor Addysg y Cynulliad wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am “gladdu ei phen yn y tywod.”

Mae Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar faterion addysg wedi cyhuddo’r llywodraeth o “fethu cynllunio’n effeithiol am ddyfodol y gweithlu” ac o “ymyrryd gormod” ym myd addysg.

Roedd gwaith ymchwil BBC Cymru yn dangos bod dros 100 o ysgolion yng Nghymru heb bennaeth parhaol ar hyn o bryd.

Gormod o bwysau gwaith a biwrocratiaeth sy’n cael y bai am rwystro athrawon rhag ceisio am swyddi prifathrawon ac mae Simon Thomas am weld y broses yn cael ei “hwyluso”.

“Athrawon da ac arweiniad cryf yw’r ffactorau pwysicaf o ran gwella safonau a chodi cyrhaeddiad, a dylai’r system ganolbwyntio ar hwyluso’r broses hon,” meddai.

Dilyn esiampl ysgolion preifat?

Awgrymodd ar raglen Dylan Jones ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru y byddai cael dwy swydd i  reoli’r ysgol – un ar gyfer y gwaith cynnal a chadw a’r llall ar gyfer canolbwyntio ar addysg – yn helpu i leddfu ar waith prifathrawon ychydig.

Cyfeiriodd hefyd at lawer o ysgolion preifat sy’n cyflogi rhywun ar wahân i reoli’r ystâd, gan awgrymu y dylai ysgolion cyhoeddus ddilyn eu hesiampl.

“Yn sicr, mae lle i reolwyr mewn ysgolion, a dydyn ni ddim am lwytho prifathrawon gyda mân dasgau biwrocrataidd. Dylai prifathrawon allu canolbwyntio ar arwain a chodi safonau,” meddai mewn datganiad.

“Mae Plaid Cymru eisiau gwobrwyo athrawon am eu dysgu, ac fe wnawn ni dorri lawr ar fiwrocratiaeth fel y gall athrawon a phrifathrawon roi eu hamser i godi safonau, gwella cyrhaeddiad a rhoi’r cychwyn gorau oll mewn bywyd i’n plant.”

‘Gormod o her, heb gymorth’

Yn ôl Rob Williams, Cyfarwyddwr Polisi NAHT Cymru, mae gormod o her yn wynebu prifathrawon heb y ‘lefel gywir’ o gymorth gan Gonsortia ac Awdurdodau Lleol.

Cytunodd fod galwadau ariannol a rheolaethol yn golygu bod penaethiaid ysgol bellach yn delio â materion gweinyddol yn hytrach na materion addysgu a dysgu.

Dywedodd hefyd fod cyflog llawer o brifathrawon heb gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf y “lefelau uwch o atebolrwydd.”

“Nes bod rôl y pennaeth yn cael ei rhyddhau o lawer o’r fiwrocratiaeth gyfredol ddiangen ac y gallan nhw ganolbwyntio ar sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial… a nes bod cymorth ar gael i les penaethiaid, mae NAHT Cymru yn credu bydd yr heriau recriwtio yn parhau,” meddai.

‘Dim argyfwng’

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Addysg, Huw Lewis: “Does ‘na ddim ‘argyfwng’ recriwtio penaethiaid yng Nghymru.

“Mae tua 800 o ymarferwyr cofrestredig â Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol dros Brifathrawiaeth ac mae mwy o ymgeiswyr yn ymgymryd â’r cymhwyster eleni.”

Ychwanegodd y byddai cynllun Plaid Cymru i “gymryd miliynau o bunnoedd o’r ysgolion tlotaf yn eu newidiadau i fformiwla llywodraeth leol yn gwneud bywyd yn fwy anodd i’n penaethiaid.”