Mae Camelot wedi cyhoeddi bod enillydd yr ail jacpot o £33 miliwn wedi cysylltu â nhw.

Dywedodd Camelot bod yr enillydd wedi prynu’r tocyn Lotto yng Nghaerwrangon ar 9 Ionawr ond eu bod am aros yn anhysbys.

Roedd y cwmni wedi bod yn ymchwilio i gannoedd o geisiadau gan bobl yng Nghaerwrangon  oedd yn honni eu bod wedi colli’r tocyn neu ei fod wedi ei ddifrodi neu ar goll.

Cwpl o Hawick yn yr Alban, David a Carol Martin, y ddau yn 54 oed, a enillodd hanner arall y jacpot a oedd yn werth cyfanswm o £66 miliwn.