Milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi lansio cyfres o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf a fydd yn cael eu cynnal yn 2016.

Rhaglen 2016 yw’r llyfryn blynyddol diweddaraf yng nghyfres Llywodraeth Cymru – Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918.

Mae’n hysbysebu digwyddiadau a phrosiectau â chyswllt Cymreig sy’n cael eu cynnal yng Nghymru a thu hwnt yn ystod y flwyddyn. Mae’r lansiad yn cyd-fynd â Diwrnod Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf sy’n cael ei gynnal yn Aberystwyth.

Brwydr y Somme

Prif bwyslais eleni fydd cofio Brwydr y Somme a ddigwyddodd rhwng 1 Gorffennaf ac 18 Tachwedd 1916.  Bydd y rhan wnaeth yr 38ain Adran ei chwarae ym Mrwydr Mametz Wood, sydd â chymaint o gysylltiadau â Chymru, yn cael ei goffáu ar ganmlwyddiant y frwydr ar 7 Gorffennaf.

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, bydd Castell Caernarfon yn croesawu’r gosodiad celf ‘Poppies: Weeping Window’ gan yr artist Paul Cummins a’r dylunydd Tom Piper. Roedd y gwaith celf eiconig o babïau yn rhan o arddangosfa yn Nhŵr Llundain a bydd yng Nghaernarfon dros gyfnod Dydd y Cofio a chanmlwyddiant diwedd Brwydr y Somme.

‘Ni ddylem fyth anghofio’r aberth’

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 – 1918 yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar yr effaith sylweddol a gafodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar bobl Cymru – ac i goffáu’r rhai a fu’n gwasanaethu gartref a thramor.

“Ni ddylem fyth anghofio’r aberth a wnaed gan bobl Cymru, ynghyd â gweddill y DU a lluoedd y cynghreiriaid. Mae hi mor bwysig bod cenedlaethau’r dyfodol yn gwybod am y rhyfel erchyll hwn ac yn deall sut y mae wedi llunio Cymru heddiw. Dylem geisio dysgu oddi wrth hyn er mwyn gallu symud at fyd mwy heddychlon.

“Mae safon y cydweithio a chydgysylltu ledled Cymru ers i mi lansio rhaglen goffáu genedlaethol Cymru ym mis Awst 2014 wedi bod yn eithriadol. Mae’r gweithgareddau sy’n cael eu rhestru yn Rhaglen 2016 yn profi y bydd hyn yn parhau gydol 2016 a thu hwnt.”