Mae Undeb Rygbi Cymru wedi galw ar chwaraewyr i roi gwybod iddyn nhw am unrhyw achosion honedig o gymryd cyffuriau o fewn y gamp er mwyn “amddiffyn ein gêm”.

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips, eu bod nhw’n gwneud yr apêl am wybodaeth ar ôl i ail reng Maesteg Harlequins, Ryan Watkins, gael ei wahardd rhag chwarae –  y deuddegfed chwaraewr o Gymru i gael ei i wahardd gan y corff UK Anti-Doping.

Mae Ryan Watkins wedi cael ei wahardd am bedair blynedd ar ôl profi’n bositif am y steroid anabolig nandrolone a methylhexaneamine.

Roedd ei gyd chwaraewr Shaun Cleary hefyd wedi’n profi’n bositif cyn gem gyfeillgar yn erbyn Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Awst y llynedd ac wedi ei wahardd am ddwy flynedd ar ôl i benzoylecgonine a chocên gael ei ddarganfod yn ei system.

Ym mis Tachwedd, dangosodd ffigyrau UK Anti-Doping fod traean o’r athletwyr ym Mhrydain sy’n cael eu gwahardd am ddefnyddio cyffuriau yn chwaraewyr rygbi o Gymru.

Wrth ymateb i’r ddau waharddiad diweddaraf, pwysleisiodd Martyn Phillips bod angen rhagor o wybodaeth i ddal y drwgweithredwyr.

‘Cyfrifoldeb’

Meddai Martyn Phillips, mewn datganiad:  “Nid oes lle i  gyffuriau yn y byd chwaraeon, ac yn sicr nid yw’n cyd-fynd â gwerthoedd rygbi’r undeb.

“Mae gan chwaraewyr gyfrifoldeb iddyn nhw eu hunain, i’w gilydd, i’w clybiau ac i’r gamp i ymddwyn o fewn y rheolau ac ysbryd y gêm.

“Rydym yn awyddus i gael gwared â’r arferion hyn o’n gêm ac rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth o ddefnydd o gyffuriau i alw Undeb Rygbi Cymru neu UK Anti-Doping a’n helpu i amddiffyn ein gêm.”

Addysg wrthgyffuriau

Mae Undeb Rygbi Cymru yn dweud ei fod wedi dechrau rhaglen i hyfforddi addysgwyr ac ymgynghorwyr ychwanegol i gyflwyno addysg wrth gyffuriau tra’n cynnig gweithdai ymwybyddiaeth mewn rhanbarthau a chlybiau ledled Cymru.

Dywedodd cyfarwyddwr cyfreithiol UK Anti-Doping, Graham Arthur: “Fe gymrodd Ryan Watkins nandrolone a methylhexaneamine yn fwriadol, heb unrhyw ystyriaeth am ei gyfrifoldebau fel athletwr.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr achos hwn yn rhwystro chwaraewyr amatur ifanc eraill. Nid yw’r risgiau i’ch gyrfa, eich enw da ac yn bwysicach i’ch iechyd, yn werth y drafferth.”