Mae ymchwiliadau i farwolaethau anghyfreithlon 57 o filwyr yn Irac wedi cael eu rhoi o’r neilltu.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan swyddogion o’r Weinyddiaeth Amddiffyn ddydd Sul.

Cafodd un achos arall ei roi o’r neilltu gan awdurdod erlyn y lluoedd arfog.

Daw’r newyddion wedi i Brif Weinidog Prydain, David Cameron addo cwtogi ar geisiadau amheus yn erbyn milwyr oedd wedi gwasanaethu yn Irac.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol Richard Benyon wrth bapur newydd The Sun fod “baich annioddefol” ar filwyr sy’n “gwybod eu bod nhw’n ddieuog”.

Mae’r mesurau sy’n cael eu hystyried i leihau nifer y ceisiadau yn erbyn milwyr yn cynnwys trefniadau ’dim buddugoliaeth, dim ffi’ a chryfhau grym archwilio’r awdurdodau.

Hefyd, fe allai mesurau eraill gynnwys cyflwyno profion dinasyddiaeth ar gyfer achosion cymorth cyfreithiol fydd yn gofyn bod ymgeiswyr wedi bod yng ngwledydd Prydain ers 12 mis.

Gallai mesurau hefyd gael eu cyflwyno i gosbi cyfreithwyr sy’n ceisio manteisio ar filwyr.