Mae oedi ar Bont Hafren wedi i lori oedd yn cludo glaswellt fynd ar dân.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 12.50 brynhawn Sul.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu, ond cafodd y draffordd ei chau i’r ddau gyfeiriad.

Mae cerbydau wedi’u dargyfeirio i’r hen bont yn y cyfamser.

Roedd adroddiadau bod ffrwydrad wedi bod.