Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth dyn 31 oed yn Llanelli.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Bigyn y dref fore Sadwrn.

Does dim esboniad am ei farwolaeth hyd yma. 

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth ac mae disgwyl rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ddydd Llun.