Mae cwyro rhan bersonol o’r corff ar restr o’r hawliadau mwyaf rhyfedd sydd wedi’u cofnodi ar ffurflenni trethi, yn ôl yr Adran Gyllid a Thollau.
Cafodd y rhestr ei chyhoeddi gydag wythnos i fynd tan y dyddiad cau ar gyfer hunanasesiadau.
Cafodd ffurflenni eraill eu cyflwyno yn hawlio am ddodrefn fflat, cadw bariau siocled dros nos mewn oergell, y gost o brynu pâr o fflip-fflops i gerdded rhwng ystafelloedd newid y gweithle, a char ail law i deithio i’r gwaith ac yn ôl.
Mae’r Adran yn rhybuddio bod cyflwyno ffurflenni’n hwyr yn gallu arwain at ddirwy o £100.
Bydd 440,000 o bobol yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, a’r mwyaf ohonyn nhw (125,000) yn ardal Caerdydd.
Cyngor
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Treth Bersonol yr Adran Gyllid a Thollau, Ruth Owen: “Mae yna nifer o eitemau a threuliau y gall pobl wneud cais yn eu herbyn, megis costau busnes dilys ac eitemau sydd eu hangen ar gyfer eu gwaith.
“Ond nid yw arferion harddwch poenus na dodrefn ar gyfer eich cartref eich hun, yn eitemau y dylai pob trethdalwr yn y wlad fod yn cyfrannu tuag atynt.
“Nid yw’n iawn fod lleiafrif bach o bobl yn disgwyl i’r mwyafrif gonest talu am eu ffordd o fyw. Ni fydd CThEM, ar unrhyw adeg, yn caniatáu i’r rhain gael eu prosesu fel ceisiadau dilys.
“Gydag un wythnos i fynd tan y dyddiad cau, sef 31 Ionawr, mae’n well llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
“Mae ein gwasanaeth ar-lein yn gyflym ac yn syml i’w ddefnyddio, gyda llawer o wybodaeth ddefnyddiol – mae llenwi’ch Ffurflen Dreth yn haws na’r disgwyl.”