Mae prif arolygydd ysgolion Lloegr wedi dweud wrth y Sunday Times fod disgyblion Cymru mewn perygl o “gael eu gadael ar ôl” o’u cymharu â disgyblion Lloegr yn y ras am swyddi ac am lefydd mewn prifysgolion.
Mewn cyfweliad ar drothwy rhaglen ddogfen ddadleuol, dywedodd Syr Michael Wilshaw wrth y papur newydd: “Rwy o’r farn fod y system addysg Seisnig yn symud ar y blaen yn gyflym iawn….
“Mater i lywodraeth Cymru yw edrych ar ei pherfformiad ei hun er mwyn sicrhau ei fod yn cyfateb i berfformiad Lloegr.”
Daw sylwadau’r prif arolygydd wedi cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Huw Lewis nad yw’n bwriadu brwydro i gadw ei sedd yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.
Wrth astudio canran y disgyblion o Gymru a Lloegr sy’n mynd i’r brifysgol, mae Cymru ymhell ar ei hôl hi – 36% o’i gymharu â 48% yn Lloegr.
Roedd Cymru hefyd ar waelod y tabl o wledydd Prydain ar gyfer sgiliau mathemateg, gwyddoniaeth a darllen yn dilyn astudiaeth yn 2012.
Bydd y rhaglen ddogfen ‘It’s an Education’ yn cael ei darlledu ar BBC1 nos Fawrth am 10.40yh.