Mae dynes 73 oed wedi marw yn dilyn tân yn Nhreforys ger Abertawe.

Cafodd hi a dyn 74 oed eu cludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Waltham Close am 7.50 nos Sadwrn.

Cafodd y dyn anafiadau nad ydyn nhw’n peryglu ei fywyd.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.