Mae myfyriwr ieithoedd tramor ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael y cyfle i weithio ag un o glybiau pêl-droed uwch gynghrair Sbaen ar sail ei waith ymchwil i hunaniaeth genedlaethol yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia.
Mae Jack Giles, sydd bellach yn fyfyriwr MA Cyfieithu yn Abertawe, newydd ddychwelyd o’i gyfnod diweddaraf yn gweithio i Glwb Pêl-droed SD Eibar yng Ngwlad y Basg.
Ar ôl graddio’r llynedd mewn Sbaeneg a Gwleidyddiaeth, mae e wedi treulio sawl cyfnod gyda’r clwb sy’n chwarae yn La Liga, ac wedi cael gwahoddiad i ddychwelyd yno unwaith eto dros yr haf.
Cafodd Jack ei ddewis gan Adran Sbaeneg y Brifysgol i’w cynrychioli fel rhan o bartneriaeth gyda sefydliad cymunedol SD Eibar, ‘Ipurua Kirol Fundazioa’.
Hunaniaeth
Roedd Jack eisoes wedi treulio cyfnod yn dysgu mwy am hunaniaeth genedlaethol yng Nghatalwnia yn ystod ei flwyddyn dramor yn ninas Barcelona.
Ond wrth gydweithio ag SD Eibar y cafodd Jack y cyfle i ehangu ei wybodaeth am y sefyllfa yng Ngwlad y Basg.
Meddai wrth Golwg360: “Es i i nifer o gemau Barcelona yn ystod y flwyddyn dramor ac roedd y cyswllt rhwng cefnogwyr y clwb a’r mudiad dros annibyniaeth, er nad oedd yn cael ei gydnabod yn swyddogol, yn ymddangos yn amlwg iawn.
“Mae’r faner estelada yn arwydd o gefnogaeth i annibyniaeth ac mae’r holl gefnogwyr yn llafarganu ar ôl 17 munud ac 14 eiliad, gan gydnabod y flwyddyn 1714 pan gafodd Catalwnia ei threchu gan y Castille.”
Franco
Yng nghyfnod Franco y cafodd gwreiddiau’r cyswllt annatod rhwng pêl-droed a hunaniaeth genedlaethol yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia eu plannu, yn ôl myfyriwr ieithoedd modern ym Mhrifysgol Abertawe.
Wrth i drigolion Catalwnia frwydro yn erbyn amodau byw gwael, roedd y brifddinas, Madrid yn cael ei hystyried yn ganolbwynt i ddirywiad Sbaen ac fe dyfodd yr agendor rhwng y ddwy ddinas.
Hynny, meddai, sydd wedi arwain at y gystadleuaeth ffyrnig rhwng Barcelona a Real Madrid drwy ornestau’r ‘El Classico’.
Ychwanegodd: “Clybiau pêl-droed oedd yr unig lwyfan oedd yn cael ei ganiatáu ar gyfer mudiadau cenedlaetholgar, a chaeau pêl-droed oedd yr unig fannau lle feiddiai pobol siarad yr iaith Gatalan neu’r Fasgeg.
“Roedd Real Madrid yn cynnal fflam gweinyddiaeth Franco, oedd yn ceisio lledaenu cenedlaetholdeb Sbaenaidd.”
Cyfrifoldebau
Fel rhan o’i ddyletswyddau, aeth Jack i Wlad y Basg fel athro Saesneg ar raglen haf i blant yr ardal, gan gyflwyno sesiynau hyfforddi pêl-droed a gwersi Saesneg mwy ffurfiol ochr yn ochr.
Dywedodd Jack wrth Golwg360: “Sylweddolais i’n eithaf cyflym fod safon Saesneg y myfyrwyr ar y cyfan yn eithaf isel, ac roedd hi’n gwbl amlwg mai’r cyfan oedden nhw am ei wneud oedd gwisgo’u hesgidiau pêl-droed a chicio pêl cyn gynted â phosib.
“Roedd hi’n hanfodol fy mod i’n cyflwyno’r gwersi mewn modd hwylus, syml a deinamig er mwyn cynnal eu diddordeb a sicrhau bod cyfle i bob myfyriwr gymryd rhan, beth bynnag oedd safon eu hiaith.”
Yn ogystal â dysgu Saesneg i’r plant, gweithiodd Jack fel cyfieithydd a chyfieithydd ar y pryd adeg gêm SD Eibar yn erbyn Glasgow Celtic ar gyfer dathliadau 75 mlwyddiant y clwb.
‘Profiad amhrisiadwy’
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig nifer o raglenni i fyfyrwyr ieithoedd modern drwy eu Strategaeth Cyflogadwyedd sy’n rhoi profiad gwaith iddyn nhw, gan gynnwys modiwlau gwaith maes, blwyddyn dramor a lleoliadau gwaith dros yr haf.
Un o’r rhai sy’n cynnig y cyfleoedd hyn yw Tanya May, sy’n diwtor iaith yn Adran Sbaeneg Prifysgol Abertawe.
Dywedodd hi wrth Golwg360 fod y cyfle a gafodd Jack Giles i ddefnyddio’i sgiliau iaith mewn amgylchfyd proffesiynol yn un a fydd yn ei baratoi ar gyfer y byd gwaith.
“Mae angen i fyfyrwyr gael cyfleoedd yn y byd go iawn ac mae profiad fel hyn yn un amhrisiadwy.
“Mae angen i ni arfogi’n myfyrwyr a’r ffordd orau o wneud hynnyw yw drwy eu hanfon nhw allan i wneud gwaith maes.
“Cafodd Jack gyfle unigryw i brofi amgylchfyd gwaith prysur iawn lle gallai ddefnyddio ei sgiliau fel ieithydd, gan gael blas ar ddiwylliant Gwlad y Basg, ac mae ganddo fe rwydwaith o gysylltiadau erbyn hyn a fydd yn ei helpu i dyfu, rwy’n siŵr.”