Mae tri o bobol yn dioddef o firws Zika wedi iddyn nhw fod yn Ne America, yn ôl Public Health England.

Mae lle i gredu mai mosgitos yw prif achos y firws sydd wedi taro Colombia, Suriname a Guyana.

Caiff y firws ei drosglwyddo gan fosgitos.

Mae rhybudd i fenywod beichiog i beidio â theithio i’r gwledydd lle mae achosion o’r firws wedi’u cofnodi.

Mae llywodraeth Brasil wedi cyhoeddi cynlluniau i ariannu ymchwil i ddatblygu brechlyn yn erbyn y firws.

Mae’r firws yn gysylltiedig ag afiechyd mewn babanod.