Ysbyty Athrofaol Caerdydd
Mae dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ac ambiwlans ar ôl iddo gwympo 40 troedfedd oddi ar glogwyn ym Mro Morgannwg.
Dioddefodd y dyn anafiadau i’w ben yn y digwyddiad ger Y Rhws.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 8.40 y bore ma.
Mae’r dyn yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ond does dim rhagor o fanylion am ei gyflwr ar hyn o bryd.