Byddai cynnal refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin yn gamgymeriad, meddai Nicola Sturgeon.

Mynegodd Prif Weinidog yr Alban ei barn ar raglen Andrew Marr y BBC, gan rybuddio y byddai cynnal y refferendwm bryd hynny’n “amharchus” i etholiadau yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac etholiadau ar gyfer swydd Maer Llundain.

Dywedodd Sturgeon wrth y rhaglen ei bod hi’n credu y bydd yr ymgyrch ‘Na’ yn colli os yw’n ymddwyn yn yr un modd ag y gwnaeth yr ymgyrch ‘Na’ adeg refferendwm annibyniaeth yr Alban.

Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Prif Weinidog Prydain, David Cameron a phenaethiaid yr Undeb Ewropeaidd i ddod i gytundeb newydd, ac mae’n bosib y gallai’r refferendwm gael ei gynnal ym mis Mehefin.

Dau reswm

Dywedodd Nicola Sturgeon: “Rwy’n credu y byddai’n gamgymeriad ar ran David Cameron.

“Mae dau reswm pam na fyddwn i o blaid refferendwm ym mis Mehefin.

“Un, fe allech chi ei gymryd fel pe bawn i’n hunanol. Mae etholiad yr Alban ym mis Mai, felly hefyd yr un Cymreig, un Gogledd Iwerddon a Llundain.

“Rwy’n credu y byddai cael ymgyrch refferendwm baralel yn amharchus i’r etholiadau pwysig hynny.

“Yr ail reswm yw fy mod i’n credu y byddai’n well i David Cameron adael mwy o amser rhyngddyn nhw – os yw’n sicrhau cytundeb yng Nghyngor Ewrop ym mis Chwefror – mae angen mwy o amser rhwng y cytundeb hwnnw a’r amser pan fydd penderfyniad.”

Ychwanegodd y dylai’r trafodaethau ganolbwyntio ar y rhesymau pam y dylid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr elfennau negyddol.