Jamie Baulch
Mae’r athletwr Olympaidd o Gymru, Jamie Baulch yn cymryd rhan mewn ras elusennol fore Sul i godi arian at Ysgol Coed Efa yng Nghwmbrân.

Cafodd adeilad yr ysgol ei ddifrodi yn dilyn tân yn oriau man Dydd Calan.

Mae Baulch yn un o gyn-ddisgyblion yr ysgol.

Mae rhai disgyblion eisoes wedi dychwelyd i’r ysgol ond mae plant y dosbarth meithrin yn aros i ystafelloedd dros dro fod ar gael.

Mae cannoedd o bobol, gan gynnwys staff, rhieni ac athrawon yr ysgol yn cymryd rhan yn y ras tair milltir a ddechreuodd yn Stadiwm Cwmbrân am 10.30 y bore ma.

Cafodd dros £4,000 ei godi eisoes.