Mae pryderon am fam a’i mab saith mis oed o Swydd Cumbria sydd heb gael eu gweld ers bore Sadwrn.

Dywedodd yr heddlu fod Donna Newby, 33, a’i babi saith mis oed, Corey wedi mynd ar goll o’u cartref yn Barrow toc cyn 10 o’r gloch y bore.

Mae ganddi groen gwyn, mae hi o gorffolaeth fach a chanddi wallt golau.

Mae’n bosib ei bod hi’n gwisgo siaced ddu a trowsus du.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.