Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r tŷ yn Nhreforys am 7.50 nos Sadwrn.

Roedd y fflamau wedi’u cyfyngu i un llawr yr adeilad yn Waltham Close.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd am gyflwr yr unigolyn a gafodd ei gludo i’r ysbyty.