Mae cwmni Media Wales wedi ymddiheuro ar ôl awgrymu bod seren rygbi Cymru, Jamie Roberts wedi dod ymlaen yn y byd fel meddyg er gwaetha’r ffaith iddo dderbyn addysg Gymraeg.
Roedd y darn yn trafod cyfyng-gyngor y cyflwynwyr teledu Lucy a Rhodri Owen, sy’n destun rhaglen deledu sy’n cloriannu manteision ac anfanteisio anfon plentyn i ysgol Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae eu mab, Gabriel, sy’n saith oed, yn mynychu ysgol gynradd Gymraeg, ond mae gan ei fam “deimlad greddfol” y dylid ei anfon i ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg.
Yn y rhaglen nos Lun, mae Lucy Owen yn trafod ei thaith “anodd” i ddod o hyd i’r addysg gywir i’w mab.
Yn Welsh or English? Lucy Owen’s Big School Dilemma, mae cyflwynydd Wales Today yn mynd ar daith bersonol i geisio darganfod pa addysg sydd orau i’w mab.
Wrth geisio gwneud y penderfyniad, gwnaeth Lucy Owen gyfarfod â Jamie Roberts yng Nghaergrawnt i weld sut mae e wedi elwa ar addysg Gymraeg.
Ond yn y darn gan Nathan Bevan ar gyfer y Western Mail a Wales Online yn trafod y rhaglen, fe ddefnyddiodd y gohebydd y gair ‘despite’ wrth drafod y ffordd y mae Jamie Roberts wedi llwyddo i gael addysg yn Lloegr a dechrau ar ei yrfa yno fel meddyg.
Mewn datganiad, dywedodd Media Wales: “Rydym yn ymddiheuro, wrth gwrs, am sarhad anfwriadol a gafodd ei achosi gan y defnydd o’r gair ‘despite’ yn fersiwn y Western Mail o’r erthygl hon ac mewn fersiwn gynharach ar-lein.
“Cyd-destun y darn yw ei fod yn trafod manteision addysg Gymraeg, yr ydym yn ei charu ac yn ei hedmygu.
“Bwriad y gohebydd oedd mynegi’r ffaith nad oedd gorfod neu ddewis astudio’n ddiweddarach yn Saesneg yn y brifysgol wedi rhoi disgybl dan anfantais wedi iddo gael ei addysgu yn Gymraeg.
“I’r gwrthwyneb, mewn gwirionedd. Mae’n ddrwg gennym fod safbwynt amgen wedi’i gyfleu.”
Arweiniodd y ffrae at drendio’r hashnod ‘#despitebeingtaughtinwelsh’ ar Twitter.
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd y dyfarnwr rygbi, Nigel Owens: “Does gen i ddim amheuaeth fod cael fy nysgu drwy’r Gymraeg, sef fy iaith gyntaf, wedi bod o fudd mawr i fi. Byddwn yn annog pob plentyn i ddysgu Cymraeg.”