Jimmy Savile
Mae’r BBC wedi cael ei beirniadu am y diwylliant oedd yn bodoli yn y gorfforaeth a adawodd i Jimmy Savile gam-drin plant.
Dyna y mae’r asiantaeth newyddion Exaro wedi dweud ar ôl honni ei bod wedi gweld fersiwn ddrafft o’r adolygiad gan y Fonesig Janet Smith.
Yn ôl Exaro mae’r adroddiad yn cyhuddo’r BBC o ddangos “diwylliant o barch” tuag at y DJ a sêr eraill a bod rheolwyr yn meddwl eu bod “y tu hwnt i’r gyfraith.”
Yn ôl Exaro, dydy’r barnwr ddim yn beirniadu’r BBC am beidio â dod â’r achosion o gam-drin i’r amlwg.
‘Dogfen wedi dyddio’
Dywedodd llefarydd ar ran yr adolygiad ei fod yn “siomedig” bod yr adroddiad wedi dod i ddwylo’r wasg, gan ddweud mai drafft cynnar yw’r fersiwn hon.
“Mae’r ddogfen wedi dyddio ac mae newidiadau sylweddol yn ei chynnwys a’i chanlyniadau,” meddai’r adolygiad mewn datganiad i BBC News.
“Ni ddylai’r ddogfen fod wedi cael ei chyhoeddi ac ni ellir dibynnu arni o dan unrhyw amgylchiadau.
“Bydd yr adolygiad yn gweithio gyda’r BBC i drefnu cyhoeddi ei adroddiad terfynol cyn gynted â phosib er mwyn sicrhau gohebu cywir a chyfrifol.”
Yn ôl y BBC, dydyn nhw heb weld copi o’r adroddiad a gafodd ei lansio yn 2012 ar ôl i’r honiadau o gam-drin rhywiol gan y diweddar Jimmy Savile ddod i’r amlwg.
“Llawer” o weithwyr yn gwybod
Dywedodd Exaro fod “llawer” o staff y BBC wedi dweud wrth yr adolygiad eu bod wedi clywed bod Jimmy Savile yn cam-drin merched ifanc ond bod gormod o ofn arnyn nhw i roi gwybod i reolwyr.
Fodd bynnag, y gred yw bod y Fonesig Janet Smith yn derbyn nad oedd ffigurau hŷn y gorfforaeth yn ymwybodol o’r hyn roedd Jimmy Savile yn ei wneud.
Roedd rhan o’r adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan Exaro yn dweud bod achosion o gam-drin gan Savile wedi digwydd yn “bron â bod pob un o leoliadau’r BBC,” lle’r oedd yn gweithio.