Y ddraig-leidr
Draig-leidr yw’r enw sydd wedi cael ei roi ar y math o ddinosor y cafodd ei olion eu darganfod ar draeth ym Mhenarth y llynedd.
Roedd y gweddillion wedi bod yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru o dan yr enw Lladin Dracoraptor hanigani.
Ond bellach mae’r enw Cymraeg newydd wedi’i roi ar y dinosor i nodi’r cyswllt rhwng Cymru a’r ddraig.
Mae’r ‘hanigani’ yn deillio o enwau’r ddau a ddaeth o hyd i’r gweddillion, Nick a Rob Hanigan.
Mae’r ddraig-leidr yn cael ei ddisgrifio fel y ‘dinosor Jwrasig hynaf’ ac fel ‘neotheropod gwaelodol o gyfnod Hettangaidd Prydain Fawr’ gan bedwar o awduron papur y cyfnodolyn ar-lein ‘Journal PLoS ONE’.
Mae modd darllen yr adroddiad yma.
Troed dinosor
Hefyd yn rhan o’r arddangosfa ddinosoriaid mae troed dinosor a gafodd ei darganfod gan Sam Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, sy’n fyfyriwr palaeontoleg ym Mhrifysgol Portsmouth.
Daeth Sam o hyd i ddau flocyn sydd wedi’u paratoi i ddatgelu esgyrn troed mewn cyflwr hynod, ac wedi cadw’u hosgo gwreiddiol.
Gwnaed y darganfyddiad gwreiddiol gan y brodyr Nick a Rob Hanigan wrth hela ffosilau ar draeth Larnog wedi i stormydd gwanwyn 2014 daro arfordir Bro Morgannwg.
Wrth archwilio cwymp creigiau ar y traeth, dyma weld nifer o flociau rhydd ag ynddynt ddarnau o sgerbwd dinosor bach. Dyma gasglu’r sbesimen oedd yn cynnwys penglog, dannedd miniog a chrafangau.
Cafodd yr esgyrn ffosiledig eu canfod wedi’i gwasgaru dros bum darn o graig, ac er bod rhai wedi’u cadw yn eu safle cywir, roedd eraill wedi’u gwahanu a’u gwasgaru gan bysgod a draenogod môr sydd hefyd wedi’u ffosileiddio gyda’r esgyrn.
Rhinweddau’r deinosor
Bu Nick a Rob Hanigan wrthi’n ofalus yn paratoi’r sbesimen cyn cysylltu â Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru.
Llwyddodd hi, ynghyd ag arbenigwyr deinosor o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion, i ddadansoddi’r dannedd a’r esgyrn.
Llwyddodd y tîm i gadarnhau fod y deinosor hwn yn gigysydd o’r grŵp theropodau.
Mae’n debyg hefyd mai deinosor ifanc ydoedd gan fod rhai o’r esgyrn heb eu ffurfio’n llawn eto.
Roedd y deinosor Cymreig yn gefnder pell i Tyrannosaurus rex ac yn byw ar ddechrau’r Cyfnod Jwrasig (201 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a dyma o bosib y deinosor Jwrasig hynaf yn y byd.
Anifail bach, tenau a chwim oedd hwn, prin 70cm o daldra a tua 200cm o hyd gyda chynffon hir i gadw cydbwysedd.
Pan oedd yn crwydro’r Ddaear roedd de Cymru yn ardal arfordirol gyda hinsawdd gynnes, a dinosoriaid yn dechrau amrywio.
Mae’n perthyn i’r Coelophysis oedd yn byw rhyw 203 i 196 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn ardal sydd erbyn hyn yn dde-orllewin Unol Daleithiau America.
Er bod dannedd ac esgyrn dinosoriaid wedi eu darganfod yn ne Cymru yn y gorffennol ger Penarth, Pen-y-Bont, a’r Bont-faen, y deinosor newydd hwn yw’r sgerbwd therapod cyntaf i gael ei ddarganfod.
Dafliad carreg i ffwrdd yn y Barri mae un o’r casgliadau hynaf o olion traed deinosor yn Ewrop, yn dyddio i ganol y Cyfnod Triasig oddeutu 215 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
‘Sbesimen hynod’
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Nick a Rob Hanigan am eu haelioni yn rhoi’r sbesimen hynod hwn yn rhodd i gasgliad Amgueddfa Cymru, i’w gadw er budd cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydyn ni wrth ein bodd i allu arddangos y ffosil unwaith eto yn y brif neuadd.
“Bu’n boblogaidd dros ben ym misoedd yr haf, a bydd y droed a ganfuwyd yn ddiweddar yn atyniad pellach.
“Gobeithiaf y bydd pobl yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am y rhywogaeth ryfeddol, newydd hon – deinosor 200 miliwn o flynyddoedd oed a ganfuwyd yma yn ne Cymru.”