Mae’r cwmni oedd yn berchen ar atyniad gwifren sip Gelli Gyffwrdd ym Methel wedi cael dirwy o £45,000 yn dilyn marwolaeth bachgen 11 oed o Blackpool yn 2011.

Fe fydd rhaid i gwmni Greenwood Forest Park Ltd dalu costau o £65,000 yn ogystal.

Bu farw Bailey Sumner-Lonsdale o anafiadau i’w ben ym mis Ebrill 2011, wythnos yn unig ar ôl i’r atyniad SwampFlyer agor.

Yn Llys y Goron Caernarfon, cyfaddefodd y cwmni oedd yn rheoli’r safle eu bod nhw wedi torri rheolau iechyd a diogelwch.

Clywodd y llys fod Bailey Sumner-Lonsdale wedi syrthio “pellter sylweddol” gan nad oedd harnais wedi’i diogelu’n ddigonol.

Yr harnais oedd yr unig beth oedd yn ei atal rhag syrthio.

Mae’r cwmni wedi ymddiheuro wrth ei deulu a’r cyhoedd.

Clywodd y llys fod gwelliannau wedi cael eu gwneud i’r safle ers y digwyddiad.