Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded amgylcheddol i gwmni UK Methane Limited i ddrilio yng Nghoedwig Foel Fynyddau ym Mhont-rhyd-y-fen yng Nghwm Afan.

Er nad oes gan y cwmni’r hawl i ffracio yno nac i echdynnu unrhyw olew neu nwy, fe allai’r prosiect arwain y ffordd ar gyfer ffracio yn y dyfodol.

Yn ôl amodau’r drwydded, fe fydd rhaid i’r holl wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan y gwaith gael ei reoli’n briodol.

Mae cymalau yn y drwydded yn gosod cyfyngiadau ar y cwmni o ran y ffordd y mae’n gwaredu gwastraff drilio, creigiau a phridd er mwyn gwarchod yr amgylchedd a chymunedau lleol.

Mae disgwyl i’r gwaith bara hyd at 54 wythnos.

‘Asesu’r cynlluniau’n drylwyr’

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae’n bwysig i unrhyw weithgaredd o’r fath beidio â niweidio’r amgylchedd, ac mae’r drwydded hon yn nodi’n glir yr hyn y bydd yn rhaid i UK Methane Limited ei wneud er mwyn cydymffurfio â hyn.

“Cyn gwneud y penderfyniad, fe wnaethon ni asesu eu cynlluniau’n drylwyr, gan ymgynghori gyda sefydliadau arbenigol fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

“Dim ond os ydym yn fodlon bod cynlluniau manwl y cwmni’n nodi’n glir y gall weithredu’n ddiogel, heb niweidio’r amgylchedd neu gymunedau lleol, y byddwn yn rhoi trwydded amgylcheddol.

“Ar ôl i’r gwaith gychwyn, bydd ein swyddogion yn rheoleiddio ac yn monitro’r safle er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio ag amodau’r drwydded, fel y gellir gwarchod pobl a’r amgylchedd.”

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.