Rob Lawrie
Mae gweithiwr dyngarol o Brydain wedi osgoi carchar ar ôl geisio smyglo merch bedair oed o Afghanistan o’r ‘Jwngl’ ffoaduriaid yn Calais, Ffrainc.
Roedd Rob Lawrie wedi ceisio cuddio Bahar Ahmadi, neu Bru, yn ei fan a mynd â hi i Brydain at aelodau o’i theulu oedd eisoes yn byw yno’n gyfreithlon.
Fe allai’r cyn-filwr 49 oed fod wedi cael ei garcharu gan yr awdurdodau yn Ffrainc am hyd at bum mlynedd.
Ond yn lle hynny fe benderfynodd y barnwr roi dirwy o €1,000 (£750) iddo, wedi’i gohirio am bum mlynedd cyn belled nad oedd yn troseddu eto yn Ffrainc yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bywyd ar chwâl
Clywodd y llys bod busnes a priodas Rob Lawrie, sydd yn dioddef o gyflwr bipolar a syndrom Tourette’s, wedi mynd ar chwâl a’i fod wedi ceisio lladd ei hun ers iddo gael ei arestio.
Fe gyfaddefodd Rob Lawrie ei fod wedi bod yn wirion wrth geisio cuddio Bru mewn lloches gysgu yn y fan, ond mai ceisio mynd â hi at ei theulu oedd ei fwriad.
Bu cefnogwyr Rob Lawrie yn dathlu yn y llys wrth i’r barnwr gyhoeddi ei ddedfryd.